Cyn dechrau’r cwrs, bydd angen asesiad iechyd ar bob ymgeisydd llwyddiannus, gan gynnwys sgrinio am firysau a gludir yn y gwaed a thwbercwlosis, gan ein Gwasanaeth Iechyd Galwedigaethol. Os nad ydych yn imiwn i Hepatitis B, bydd angen i chi gwblhau rhaglen imiwneiddio lawn cyn cymryd rhan mewn gweithdrefnau clinigol. Os oes gennych firws a gludir yn y gwaed neu glefydau heintus eraill, ni wnaiff hynny eich rhwystro rhag cwblhau'r cwrs a chofrestru gyda'r Cyngor Meddygol Cyffredinol, ond ni fydd rhai arbenigeddau’n agored i chi yn yr hyfforddiant ac yn eich gyrfa. Os oes gennych broblem gydag iechyd y credwch y gallai effeithio ar eich gallu i astudio neu ymarfer, cysylltwch â ni cyn gwneud cais.
A oes angen asesiad iechyd? (Ceisiadau Meddygaeth)
1 min. readlast update: 10.27.2025
Help Centre