Os bydd eich cais yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi gwblhau cais am wiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) cyn cael eich derbyn ar y cwrs. Mae'n ofynnol hefyd i ymgeiswyr sydd wedi byw y tu allan i'r Deyrnas Unedig gael gwiriad cofnodion troseddol yn y wlad y buont yn byw ynddi.
Os oes gennych euogfarn droseddol berthnasol, caiff hynny ei nodi yn y gwiriad a gallai hynny effeithio ar eich gallu i gofrestru ar y cwrs. Dylai’r ymgeiswyr hynny sydd ar y rhestr waharddedig fod yn ymwybodol bod gwneud cais am le ar y cwrs hwn yn debygol o gael ei ystyried yn drosedd. Dylai'r rhai sydd ag euogfarnau troseddol nad ydynt ar y rhestr wahardd gysylltu â ni cyn gwneud cais.
Help Centre