Dim ond o fewn 12 mis i sefyll yr arholiadau gwreiddiol y byddwn yn derbyn ailsefyll Lefel 2 (e.e. TGAU). Rhaid eu cwblhau cyn gwneud cais. Yr eithriad i hyn yw Saesneg Iaith sydd heb unrhyw derfyn amser ar gyfer ei ailsefyll, ond mae'n rhaid ei gynnwys fel ‘wedi'i gyflawni’ (achieved) neu’n ‘aros am ganlyniad’ (pending) ar y ffurflen gais. Dim ond un ailsefyll a ganiateir fesul cymhwyster Lefel 2.
Nid ydym yn derbyn ailsefyll Lefel 3 (e.e. Lefel A). Fodd bynnag, dylid nodi nad ydym yn ystyried arholiadau sy'n cael eu sefyll ar ôl graddau a asesir gan y ganolfan i fod yn ailsefyll.
Ystyrir achosion o ailsefyll unedau modiwl Lefel A ar yr amod nad yw'r arholiad terfynol eisoes wedi'i gynnal a bod gradd wedi'i dyfarnu. Dim ond un ailsefyll a ganiateir fesul cymhwyster Lefel A unigol.
Help Centre