Mae cwricwlwm fferylliaeth Prifysgol Bangor wedi ei ddilysu'n academaidd gan uned Ansawdd a Dilysu Prifysgol Bangor trwy broses sy'n cynnwys arbenigedd addysg fferyllol allanol.
Mae pob rhaglen fferylliaeth yn y Deyrnas Unedig yn cael ei hadolygu'n rheolaidd gan y Cyngor Fferylliaeth Cyffredinol, y rheoleiddiwr proffesiynol ar gyfer fferylliaeth. Yn ogystal, mae pob rhaglen fferylliaeth newydd yn destun craffu trylwyr gan y Cyngor Fferylliaeth Cyffredinol. Bydd achrediad y Cyngor Fferylliaeth Cyffredinol wedi ei gwblhau unwaith bydd y garfan gyntaf o fyfyrwyr yn graddio. Ar hyn o bryd, mae’r rhaglen wedi ei hachredu dros dro hyd nes y bydd y broses wedi ei chwblhau.
Help Centre