A yw gradd meddygaeth Prifysgol Bangor wedi'i hachredu gan y Cyngor Meddygol Cyffredinol (GMC)? (Ceisiadau Meddygaeth)

1 min. readlast update: 10.27.2025

Mae cwricwlwm Ysgol Feddygol Gogledd Cymru wedi'i ddilysu'n academaidd gan uned Ansawdd a Dilysu Prifysgol Bangor trwy broses sy'n cynnwys arbenigedd addysg feddygol allanol. Mae holl ysgolion meddygol y Deyrnas Unedig yn cael eu hadolygu’n rheolaidd gan y Cyngor Meddygol Cyffredinol. Dyma’r corff rheoleiddio proffesiynol ar gyfer Meddygaeth sy’n gyfrifol am sicrhau safonau uchel ar gyfer addysg feddygol fel y disgrifir yn eu dogfen “Hyrwyddo rhagoriaeth: safonau ar gyfer addysg a hyfforddiant meddygol”. Yn ogystal, bydd y Cyngor Meddygol Cyffredinol yn craffu’n drwyadl ar bob ysgol feddygol newydd. Mae Ysgol Feddygol Gogledd Cymru yn symud ymlaen drwy broses gymeradwyo'r Cyngor Meddygol Cyffredinol i ddyfarnu Cymhwyster Meddygol Sylfaenol. Bydd achrediad y Cyngor Meddygol Cyffredinol wedi ei gwblhau unwaith bydd y myfyrwyr cyntaf yn graddio. Er mwyn amddiffyn myfyrwyr, rhaid i ysgolion meddygol newydd weithio gyda phartner ‘wrth gefn’, sef ysgol feddygol sefydledig sy’n gallu darparu cefnogaeth ac sy’n fodlon, os nad yw safonau ansawdd y Cyngor Meddygol Cyffredinol wedi eu cyrraedd am unrhyw reswm, i fyfyrwyr drosglwyddo a graddio o’r ysgol wrth gefn. Yr ysgol bartner wrth gefn ar gyfer Ysgol Feddygol Gogledd Cymru yw Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd.

Was this article helpful?